Allison Dowzell

Allison Dowzell

 

Dechreuodd Allison ei bywyd gwaith gydag Adran Darlledu Allanol y BBC yn Llundain gan ganolbwyntio’n bennaf ar raglenni chwaraeon, drama ac adloniant ysgafn. Yna symudodd Allison i Grŵp Samuelson yn Stiwdios Pinewood i weithio gyda gwneuthurwyr ffilmiau o fri yn hwyluso ffilmiau nodwedd a chynyrchiadau teledu mawr.

 

Wrth adleoli i Gymru, aeth Allison ymlaen i sefydlu Sgrîn Cymru, y sefydliad sy’n gyfrifol am hyrwyddo Cymru fel lleoliad i gynhyrchu ffilmiau a theledu a denu buddsoddiad o’r tu allan a fyddai’n cael effaith economaidd sylweddol.

 

Yn Chwefror 2018, cafodd Allison gynnig y cyfle i fod yn bennaeth ar Screen Alliance Wales (“SAW”), cwmni haelionus annibynnol wedi’i seilio yn Wolf Studios adnabyddus Cymru. Cafodd SAW ei greu gan Bad Wolf wrth i sylfaenwyr y cwmni gydnabod bod ar Gymru angen sefydliad i addysgu, hyfforddi a hyrwyddo criwiau a seilwaith teledu ledled Cymru.

 

SAW yw’r porth rhwng y diwydiant a’i weithlu. Mae’n meithrin ac yn hyrwyddo ddawn, criw a gwasanaethau’r Diwydiant Teledu a Ffilm yng Nghymru. Mae SAW yn unigryw i Gymru ac yn gyflym ddod yn safon ar gyfer y diwydiant o ran hyrwyddo’r gadwyn gyflenwi gyfan o un man. Nid y sector cyhoeddus sy’n arwain SAW, mae wedi ei greu gan y diwydiant ar gyfer y diwydiant a bydd yn eiriolwr grymus dros y criwiau, y cyfleusterau a’r ddawn mae’n eu cynrychioli.

 

CCR Chevron