Kevin Williams

Kevin Williams

 

Mae Kevin wedi bod yn Swyddog Trefnu a Datblygu gyda Chynghrair Undebau Llafur Cymru am y 23 blynedd diwethaf. Mae wedi ymwneud â mudiad yr Undebau Llafur ers mwy na 40 mlynedd yn ogystal â gwasanaethu’n Gynghorydd Sir ar Gyngor Sir Mynwy rhwng 2012 a 2022.

 

Mae ganddo radd mewn Busnes a Rheoli o Brifysgol Cymru Casnewydd a TAR o’r un brifysgol.Mae’n angerddol ynglŷn â dysgu a sgiliau ac yn mwynhau dim yn fwy na helpu dysgwyr sy’n anodd iawn eu cyrraedd er mwyn cyflawni eu potensial beth bynnag fo’u hoedran. Mae wedi magu cysylltiadau â llawer o ddarparwyr addysg a sefydliadau sy’n ymwneud â dysgu dros flynyddoedd lawer ac mae wedi defnyddio ei wybodaeth a’i brofiad i alluogi dysgwyr i oresgyn y llawer o rwystrau maent yn eu hwynebu wrth ddod yn ôl i mewn i amgylchedd dysgu.

 

CCR Chevron