Melanie Godfrey

Melanie Godfrey

 

Ymunodd Melanie â’r Cyngor o Lywodraeth Cymru, lle bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Cynllunio Busnes Addysg a Llywodraethu. Yn gweithio yn Llywodraeth Cymru ers 2006, addysg a sgiliau oedd prif ffocws ei gwaith ac roedd yn cynnwys cyfrifoldeb am ddiwygio addysg yng Nghymru, gwella ysgolion, arolygu Addysg (Estyn) a buddsoddi mewn seilwaith addysg gan gynnwys Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Mae gan Melanie dros 18 mlynedd o brofiad proffesiynol yn y sector addysg a hyfforddiant, gan ddechrau ei gyrfa yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd ar ôl graddio o Brifysgol Sussex. Yn 2002 ymunodd ag ELWa, y Corff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad ar gyfer dysgu ôl-16 yng Nghymru a daliodd sawl rôl yno gan gynnwys buddsoddiad strategol i gefnogi modelau addysgu a darparu newydd mewn ysgolion a cholegau.

CCR Chevron