Bill Peaper

Bill Peaper

 

Mae Bill Peaper wedi bod yn rhan o Ddiwydiant Cymru ers 2014 ac ar hyn o bryd yn Arweinydd Prosiect sy’n gweithio gyda chyflogwyr, llywodraeth a darparwyr ar ddatblygu sgiliau. Mae’n cefnogi uchelgais sgiliau cyflogwyr Cymru i aros yn gystadleuol. Yn ei rôl, mae Bill yn ceisio sicrhau bod blaenoriaethau sgiliau ac anghenion cyflogwyr yn y sectorau Awyrofod, Modurol, Electroneg, Technoleg, Metelau, Mecanyddol a Thrydanol yn cael eu bodloni yng Nghymru. Mae gan Bill fwy na 30 mlynedd o brofiad yn maes addysg alwedigaethol yn y sectorau gan gynnwys gweithio i Semta fel Rheolwr Cenedlaethol dros Gymru.

 

Yn ddiweddar, mae Bill wedi:

• Datblygu prosiectau Partneriaeth Sgiliau Hyblyg i’r sectorau Gweithgynhyrchu Peirianneg a Digidol

• Cefnogi datblygu ac adolygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer gweithgynhyrchu peirianneg

• Cydlynu’r grŵp Sgiliau Gweithgynhyrchu Peirianneg dros Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

• Dod yn aelod o Grŵp Llywio cyflogwyr peirianneg Coleg Caerdydd a’r Fro

• Dod yn aelod o Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

• Cefnogi cyflogwyr i ddod o hyd i gymorth ar gyfer datblygu sgiliau yng Nghymru.

CCR Chevron