Economi Sylfaenol Ddynol - Addysg, Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant a Gwasanaethau Brys

Economi Sylfaenol Ddynol - Addysg, Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant a Gwasanaethau Brys

DISGRIFIAD O’R SECTOR

Mae’r economi sylfaenol yn seiliedig ar y gweithgareddau sy’n darparu’r nwyddau a gwasanaethau hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd, waeth beth fo statws cymdeithasol defnyddwyr. Fel y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, rydym yn diffinio’r rhain ymhellach fel y gwasanaethau sy’n cael eu darparu o fewn sectorau Iechyd, Addysg, Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant a Gwasanaethau Brys, sy’n cael eu cynnig fel arfer gan gymysgedd o sefydliadau sector cyhoeddus a sector preifat.

 

Ers 2019, mae’r niferoedd a gyflogir yn y sector Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Amddiffyn, Addysg ac Iechyd, y categori sy’n ffitio orau a ddefnyddir mewn ffynonellau data cyhoeddus, wedi codi i 216,100 ar draws y rhanbarth. Yn ôl data EMSI[HW1] [SH2] , yn 2021 roedd 155,836 o swyddi yn y sectorau Addysg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn benodol.

 

Y swyddi mwyaf cyffredin yn y sectorau hyn yw Gweithwyr Gofal a Gofalwyr Cartref (11.9%), Nyrsys (10.1%), Nyrsys Cynorthwyol a Chynorthwywyr (5.1%), Gweithwyr Proffesiynol Addysgu Cynradd a Meithrin (4.6%), Gweithwyr Proffesiynol Addysgu Uwchradd (4.2%).

 

PRIF ROLAU SWYDD

• Gweithwyr gofal a gofalwyr cartref
• Nyrsys
• Gweithwyr proffesiynol addysgu cynradd a meithrin
• Nyrsys cynorthwyol a chynorthwywyr
• Cynorthwywyr addysgu
• Gweithwyr proffesiynol addysgu uwchradd
• Ymarferwyr meddygol
• Gweithwyr proffesiynol addysgu addysg uwch
• Glanhawyr a gweithwyr domestig
• Gweithwyr proffesiynol addysgu addysg bellach
• Cynorthwywyr cymorth addysgol
• Gweithwyr proffesiynol cysylltiol lles a thai

• Nyrsys a chynorthwywyr meithrinfeydd

 

SECTOR CHALLENGES AND OPPORTUNITIES

Nododd grŵp clwstwr Addysg Bellach ac Uwch Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y cyfleoedd a heriau canlynol ar gyfer Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau’r Bartneriaeth 2022-2025: 

 

• Parhau i ddatblygu capasiti ar draws darparwyr hyfforddiant ôl-16 i gyflenwi gofynion asesu ac ansawdd newydd am Fframweithiau Prentisiaeth o fewn Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ac archwilio cyfleoedd i addysgwyr weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr i gyd-gyflenwi darpariaeth arbenigol.

• Codi proffil Prentisiaethau a chyfleoedd lleoliad gwaith y sector Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant a gwella hyrwyddo’r sectorau hyn fel opsiwn gyrfa hyfyw gyda ffocws arbennig ar ddenu newydd-ddyfodiaid trwy ymgyrchoedd pwrpasol ar gyfer prinderau sgiliau sy’n hysbys yn y sector.

• Parhau i gefnogi mynediad i gyllid Prentisiaeth pob-oedran i’r sector Economi Sylfaenol Ddynol, gyda ffocws penodol ar annog pobl ifanc a’r sawl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i ymgymryd â phrentisiaeth.

• Datblygu rhaglenni Prentisiaeth newydd lle ceir tystiolaeth o alw, fel Prentisiaethau gradd a lefel-uwch i sicrhau bod y llwybrau angenrheidiol yn bodoli i mewn i’r sector Economi Sylfaenol Ddynol.

• Hyrwyddo’r sector Addysg fel opsiwn gyrfa deniadol er mwyn creu newid positif a nifer cynyddol o ymarferwyr addysg ar y Gofrestr, gyda ffocws ar recriwtio’r sawl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn y gweithlu presennol.

• Gwella’r gallu i gludo a throsglwyddo cymwysterau a chredydau rhwng sefydliadau addysgol, gan sicrhau bod dysgu a chyflawniad blaenorol yn cael eu cydnabod.

• Codi ymwybyddiaeth o’r ymagweddau arloesol at hyfforddiant cyfnodau dysgu byr a Datblygiad Proffesiynol Parhaus i weithlu’r Economi Sylfaenol Ddynol gydag ymgyrchoedd pwrpasol ac astudiaethau achos sy’n hybu llwybrau ‘annhraddodiadol’ i mewn i’r sector.

• Adeiladu ar yr ymagweddau effeithiol at addysg gyrfaoedd, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i ymdrin â phroblemau canfyddiad o’r sector a pharhau i hybu’r Economi Sylfaenol Ddynol fel opsiwn gyrfa hyfyw.

• Ymgysylltu ag adolygiadau Cymwysterau Cymru o gymwysterau presennol a rhai sy’n dod i’r amlwg er mwyn sicrhau bod cymwysterau yn diwallu anghenion diwydiant.

• Cefnogi’r galw cynyddol am sgiliau Cymraeg ar draws y gweithlu Addysg.

 

YMGYSYLLTIAD RHANDDEILIAID

• Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) https://heiw.nhs.wales/
• Educa8 https://www.educ8training.co.uk/
• Gofal Cymdeithasol Cymru  https://socialcare.wales/
• Fforwm Gofal Cymru  https://www.careforumwales.co.uk/
• Heddlu De Cymru  https://www.south-wales.police.uk/
• Tân ac Achub De Cymru  https://www.southwales-fire.gov.uk/
• Y Brifysgol Agored  https://www.open.ac.uk/
• Cyngor y Gweithlu Addysg  (EWC) https://www.ewc.wales/

• Coleg Merthyr Tudful  https://www.merthyr.ac.uk/
• Clybiau Plant Cymru https://www.clybiauplantcymru.org

 

CCR Chevron