DISGRIFIAD O’R SECTOR
Mae gan Ddeunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch (AMM) draddodiad hir yn Ne-ddwyrain Cymru a heddiw mae sawl cyflogwr uwch dechnoleg cryf wedi’u seilio yn y rhanbarth. Mae’r sector yn defnyddio prosesau a thechnoleg newydd arloesol i gynhyrchu cynhyrchion gwerth ychwanegol uchel, o fewn awyrofod, modurol, deunyddiau fferyllol ac mae’n cynnwys is-sectorau eraill fel gweithgynhyrchu bwyd. Yn yr un modd â rhannau eraill o’r economi ranbarthol, cyflogwyr bychain a chanolig sydd gryfaf ar draws y sector. Er bod AMM yn sector pwysig, dylid nodi hefyd ei fod yn cynnwys sawl sector sy’n arwyddocaol yn unigol gan gynnwys Peirianneg Trafnidiaeth.
PRIF ROLAU SWYDD
• Mae rolau swydd allweddol o fewn y sector yn cynnwys:
• Rheolwyr Cynhyrchu
• Technegwyr Peirianneg
• Arolygwyr a Phrofwyr
• Gweithiwr Prosesau
• Peirianwyr Awyrennau
• Pecynwyr, Potelwyr, Canwyr a Llenwyr
• Cydosodwyr
HERIAU A CHYFLEOEDD YN Y SECTOR
Nododd grŵp Clwstwr AMM Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y cyfleoedd a heriau canlynol ar gyfer Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau’r Bartneriaeth 2022-2025:
Hyrwyddo Prentisiaethau a gweithio i sicrhau bod Fframweithiau’n addas at eu diben ac yn gydradd â Safonau Prentisiaeth yn Lloegr.
Cefnogi gweithrediad Adolygiad Sectorol Cymwysterau Cymru o Beirianneg, Gweithgynhyrchu Uwch ac Ynni a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i sicrhau bod datblygiadau’n bodloni anghenion y diwydiant.
Cefnogi darparwyr hyfforddiant i recriwtio a hyfforddi aseswyr am brentisiaethau ar Lefel 4.
Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant yn cyd-fynd ag anghenion[HW1] y sector gan gynnwys hyfforddiant pwrpasol ar gyfer gweithredu technoleg newydd fel Awtomeiddio, Roboteg a sgiliau digidol cysylltiedig.
Manteisio ar gyfleoedd a gyflwynir trwy agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Parhau’n ymwybodol o effaith Covid / Brexit a gweithio i sicrhau y gall sgiliau gweithwyr sydd wedi’u hadleoli (o bosibl o safleoedd sy’n cau) gael eu defnyddio mewn is-sectorau sy’n wynebu heriau recriwtio.
Adeiladu ar yr ymagweddau effeithiol at addysg gyrfaoedd, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i hybu’r sector fel opsiwn gyrfa hyfyw.
Ymdrin ag ystyriaethau mewn perthynas ag anghydbwysedd rhwng y rhywiau a pharhau i gynyddu nifer y menywod sy’n ymuno â’r farchnad lafur.
Gwella cynnwys hyfforddiant athrawon sy’n canolbwyntio ar STEM a gweithio i gyflwyno lleoliadau profiad gwaith sy’n addas at eu diben mewn diwydiant er mwyn hybu cydraddoldeb.
YMGYSYLLTIAD RHANDDEILIAID
Mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymgysylltu’n strategol â:
Diwydiant Cymru https://www.industrywales.com/
Make UK https://www.makeuk.org/
Manufacturing Wales https://manufacturingwales.com
ECITB https://www.ecitb.org.uk
CS Connected https://csconnected.com/
Technology Connected https://technologyconnected.net/
Celsa Steel UK https://www.celsauk.com
Y Bathday Brenhinol https://www.royalmint.com
Aspire Blaenau Gwent and Merthyr Tydfil https://www.merthyr.gov.uk/news-and-events/latest-news/aspire-to-change-your-life-with-help-from-qa/
TSW Training https://www.tsw.co.uk/
Coleg Caerdydd a’r Fro https://cavc.ac.uk/en