Amdanom ni

Amdanom ni

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymagwedd ranbarthol at ddatblygu sgiliau, gyda Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn chwarae rôl bwysig mewn siapio blaenoriaethau strategol. Mae Partneriaethau yn rhoi argymhellion ar sail tystiolaeth i Lywodraeth Cymru ynghylch meysydd twf a dirywiad, gan sicrhau cysondeb ag anghenion cyflogwyr a rhanddeiliaid.

Ledled Cymru, mae pedair Partneriaeth (Gogledd, Canolbarth, De-orllewin, a De-ddwyrain) yn gweithredu’n ddolenni hanfodol rhwng diwydiant a llywodraeth, yn cyflenwi gwybodaeth am y farchnad ac yn cynghori am ddyraniad arian am sgiliau a chyflogadwyedd. Wedi’u hariannu’n gyfartal gan Lywodraeth Cymru, beth bynnag maint y rhanbarth a’r allbwn economaidd, mae Partneriaethau’n sicrhau bod buddoddiad mewn sgiliau’n cael ei lywio gan y galw gwirioneddol.

Mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRSP), a gynhelir gan Gyngor Dinas Casnewydd, yn gwasanaethu 10 Awdurdod Lleol De-ddwyrain Cymru. Wedi’i harwain gan Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae CCRSP yn ymgysylltu’n agos â diwydiant trwy grwpiau clwstwr sector dan arweiniad cyflogwyr. Mae’r grwpiau hyn yn asesu anghenion sgiliau’r rhanbarth ac yn rhi argymhellion i siapio datblygiad y gweithlu a thwf economaidd.

Cydnabyddir y Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau fel un o’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol sy’n cael eu cefnogi gan Swyddfa Rheoli Rhaglen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac mae’n gweithredu fel cynghorydd i’r cabinet. Mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRSP) a’r Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau wedi’u hintegreiddio o fewn strwythurau rhanbarthol ac yn cefnogi cyflenwi cyd-agenda cyflogaeth a sgiliau’r rhanbarth i’r Fargen Ddinesig a Llywodraeth Cymru.

Mae aelodaeth y Bwrdd yn dod o amrywiaeth eang o randdeiliaid sy’n mynychu fel cynrychiolwyr eu sectorau neu rwydweithiau diwydiant. Mae gan y cadeirydd rôl arsylwi ar y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol ac ar y Cyngor Busnes Rhanbarthol i sicrhau bod Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau CCRSP yn cyd-fynd ag amcanion ei Chynllun Twf Economaidd.

Mae’r Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau yn cynnwys cynrychiolwyr yr economi ranbarthol sy’n cynnwys Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Technology Connected, Diwydiant Cymru, TUC Cymru, CITB, CS Connected, ac FSB, ynghyd â chyflogwyr o sectorau blaenoriaethol rhanbarthol sydd wedi’u nodi, sy’n cynnwys Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, Creadigol, Technoleg Ariannol, a’r Economi Sylfaenol Ddynol.

Mae pob aelod y Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau yn mabwysiadu rôl llysgennad ac yn hyrwyddo gwaith y CCRSP ar draws eu rhwydweithiau cysylltiedig; gweithgaredd sy’n gwella ymgysylltu ac yn sicrhau uchafu’r cyrraedd ar draws llu o rwydweithiau busnes a strwythurau economaidd ehangach o fewn y rhanbarth.

I gefnogi gweithgarwch ymgysylltu a hybu perthnasoedd gweithio positif â chyflogwyr, mae’r CCRSP yn dal i gefnogi chwe grŵp clwstwr diwydiant. Mae’r grwpiau clwstwr yn adlewyrchu’n uniongyrchol y sectorau sydd wedi’u barnu’n flaenoriaeth i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac mae pob un yn cael ei yrru gan yr hyrwyddwr sector perthnasol:

  • Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
  • Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
  • Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
  • Creadigol
  • Technoleg Ariannol
  • Yr Economi Sylfaenol Ddynol