Skip to main content
...
Rheolwr Dysgu a Datblygu

Joanne Daniels

Mae gyrfa Joanne ym maes Dysgu a Datblygu yn rhychwantu mwy na 30 mlynedd ac yn cynnwys diwydiannau amrywiol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd.

Mae ganddi brofiad a gwybodaeth helaeth o ddatblygiad y gweithlu gan gynnwys rhaglenni Prentisiaeth, Graddedigion ac Arweinyddiaeth, hyfforddiant technegol a chyflenwi, gan greu mentrau dysgu strategol a rhaglenni allgymorth. 

Yn ogystal, mae Joanne in is-gadeirydd Canolfan Ansawdd Cymru, sefydliad nid-er-elw ac elusen gofrestredig  a sefydlwyd heb agenda i helpu Busnes Cymru.

Mae’n cefnogi sefydliadau o bob sector i gyrraeddd eu potensial a chyflawni dyfodol hyfyw a chynaliadwy.

Mae Joanne yn ymuno â CCRSP fel y cynrychiolydd Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch. Trwy weithio yn y sector hwn ar hyn o bryd, mae’n deall y tirlun cymwysterau/sgiliau/gweithlu a’r heriau mae cyflogwyr yn eu hwynebu.