...
Rheolwr Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol

Kristin Edwards

Mae Kristin yn cael ei chyflogi fel Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol i Bartneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac mae’n arwain y gwaith ymgysylltu â chyflogwyr ar draws grwpiau clwstwr Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Technoleg Ariannol a Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Mae Kristin wedi gweithio yn y sector cyhoeddus yn bennaf ers graddio. Gyda phwyslais ar gymunedau, sgiliau, hyfforddiant a chyflogadwyedd ledled De-ddwyrain Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae wedi gweithio i gymdeithasau tai, awdurdodau lleol ac wedi rheoli sawl rhaglen a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ESF a Llywodraeth y DU. Cyn ymgymryd â swydd Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol, bu Kristin yn goruchwylio Rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin 2022-2025 i Gyngor Dinas Casnewydd gyda dyraniad o £33 miliwn i’w rannu rhwng grwpiau cymunedol a phrosiectau allweddol o fewn Casnewydd.

Dechreuodd Kristin gyda Chyngor Dinas Casnewydd yn 2018 ar gyfer y rhaglen Cymunedau am Waith ac mae wedi gweithio mewn rolau amrywiol i’r awdurdod lleol. Yn ystod pandemig Covid-19, gwelodd Kristin newid yn ei thasgau gwaith ac wynebodd her cyd-drefnu’r parseli bwyd ac eitemau hanfodol i bobl a oedd yn gwarchod, yn hawdd eu niweidio neu yr oedd newid mewn incwm yn effeithio arnynt ledled dinas Casnewydd. Trwy hyn datblygodd Kristin ei sgiliau rheoli prosiect a threfnu, gan ddatrys problemau’n gyflym ac yn effeithiol wrth iddynt godi.

Mae Kristin yn gefnogwr brwd datblygiad proffesiynol parhaus, gan ymgymryd ag ystod o gyrsiau trwy gydol ei gyrfa ers graddio. Ymhlith y rhai pennaf mae ILM lefel 4 (ac yn ymgymryd â Lefel 5 ar hyn o bryd), Paratoi i Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes a PRINCE 2 (Sylfaen ac Ymarferwr).