Uwch Reolwr Sgiliau a Chyflogadwyedd
Ruth Birch-Hurst
Mae Ruth yn Uwch Reolwr Sgiliau a Chyflogadwyedd ym Medr, y comisiwn sy’n gyfrifol am ariannu a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Yn y rôI hon, mae’n gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid i ddiwallu blaenoriaethau yng nghynllun strategol y comisiwn i ddysgwyr ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ar gyfer economi sy’n esblygu ar garlam.
Gyda mwy na 35 mlynedd o brofiad sy’n rhychwantu’r sectorau cyhoeddus a phreifat, dechreuodd Ruth ei gyrfa fel hyfforddai graddedig mewn cwmni iechyd yr amgylchedd â’i bencadlys yng Nghaerffili, gan symud ymlaen i Reolwr Gweithrediadau ei adran hyfforddiant, lle datblygodd sylfaen gryf mewn datblygu’r gweithlu, datblygiad busnes ac addysg, maes a fyddai’n barhau’n ganolog trwy gydol ei gyrfa.
Am y 14 blynedd diwethaf, mae Ruth wedi gweithio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, gan reoli mentrau masnachol ac wedi’u hariannu fel ei gilydd. Mae wedi gweithio’n agos gyda chyrff dyfarnu, cyflogwyr, a grwpiau diwydiant i gyflenwi cynlluniau hyfforddiant pwrpasol. Roedd ei chyfrifoldebau’n cynnwys rheoli’r cyflenwad a ariannwyd gan PLA am bedair blynedd ac yn fwy diweddar, Rhaglen Datblygu a Thyfu Clwstwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan weithio gyda nhw i gyflenwi eu rhaglen Sero Net a Sgiliau Digidol.
Mae Ruth yn cyfrannu dealltwriaeth o’r tirlun addysg ac ymrwymiad i gydweithredu er mwyn creu canlyniadau ystyrlon ar gyfer dysgwyr a chyflogwyr.