Lisa Jones

 

Mae Lisa yn gweithio o fewn maes adfywio strategol, datblygiad economaidd, sgiliau a pholisi ers mwy na 25 mlynedd, gan weithio fel rheolwr prosiect yn CBAC i ddechrau cyn symud i mewn i lywodraeth leol.

 

Bellach mae’n rheoli gwaith Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru ac yn arwain Tîm Cyllido Adfywio ac Ymgysylltu Rhanbarthol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r tîm yn canolbwyntio ar gyflenwi rhaglenni cyllido allanol mawr yn ogystal â rheoli meysydd gwaith corfforoaeth allweddol, gan gynnwys rhaglen Pontio UE y Cyngor.

 

Ar hyn o bryd mae Lisa yn cefnogi datblygiad model cyflenwi gwasanaethau hybrid newydd ym Mhen-y-bont, gan adeiladu ar y newidiadau sy’n deillio o’r pandemig a chyfrannu at strategaethau datgarboneiddio a digidiol y Cyngor.

 

Lisa sy’n cadeirio grŵp clwstwr Sgiliau a Chyflogadwyedd Awdurdod Lleol ym Mhartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac mae’n eistedd ar nifer o strwythurau paerneriaeth eraill ar sail ranbarthol a thros Gymru gyfan.