Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

DISGRIFIAD O’R SECTOR

Mae’r sector adeiladu yn chwarae rôl hanfodol mewn cyflenwi economi fywiog ac amgylchedd ansawdd uchel. Mae rolau ym maes adeiladu yn amrywio o adeiladu traddodiadol ‘ar safle’ i rolau mwy proffesiynol ar sail gwasanaethau fel cynllunwyr, penseiri, a thirfesurwyr. Adroddwyd bod rhyw ddau o bob tri o’r gweithlu yn cael eu cyflogi mewn crefftau a gweithrediadau medrus gyda’r lleill yn cael eu cyflogi mewn rolau rheoli, proffesiynol a seiliedig mewn swyddfa.

 

Y sectorau allweddol sy’n gyrru twf yn y dyfodol yw adeiladu tai newydd preifat, adeiladau cyhoeddus heblaw tai a thrwsio a chynnal-a-chadw tai. Ymhlith y prosiectau mawr yn Ne-ddwyrain Cymru mae adran £500m Dowlais Top i Hirwaun yr A465 a chynlluniau Dŵr Cymru i fuddsoddi £360m y flwyddyn mewn gwariant cyfalaf trwodd i 2025.

 

PRIF ROLAU SWYDD

Mae rolau swydd allweddol o fewn y sector yn cynnwys:

• Trydanwyr a gosodwyr trydanol
• Seiri ac asiedwyr
• Plymwyr a pheirianwyr gwres ac awyru
• Sgaffaldwyr, llwyfanwyr a gosodwyr
• Peirianwyr sifil
• Gosodwyr briciau a seiri maen
• Peintwyr ac addurnwyr

• Cynllunwyr, penseiri, a thirfesurwyr

 

HERIAU A CHYFLEOEDD YN Y SECTOR

Nododd grŵp Clwstwr Adeiladu Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y cyfleoedd a heriau canlynol ar gyfer Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau’r Bartneriaeth 2022-2025:   

• Cefnogi gweithrediad cymwysterau newydd a gweithio i sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymwybodol o newidiadau yn y tirlun.
• Datblygu llwybrau datblygiad clir ar gyfer dysgwyr mewn perthynas ag adeiladu.
• Archwilio’r potensial i ddatblygu rhaglenni dylunio ac adeiladu digidol ymhellach.
• Archwilio cyfleoedd i ddatblygu cymwysterau i gefnogi gwaith Oddi Ar y Safle ac Ôl-osod.
• Adeiladu ar yr ymagweddau at addysg, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd a hybu’r sector fel opsiwn gyrfa hyfyw.
• Cefnogi gwaith datblygu a chyflenwi hyfforddiant i ymdrin ag agendâu cynaladwyedd a datgarboneiddio.
• Ymdrin ag ystyriaethau anghydbwysedd rhwng y rhywiau a chynyddu nifer y menywod sy’n ymuno â’r sector.
• Parhau yn ymwybodol o effaith Brexit a chyflwyno mesurau i leihau effaith all-fudo o’r farchnad lafur.
• Hyrwyddo sefydliad piblinell strategol o brosiectau seilwaith i gynnwys asesiadau effaith sgiliau.

• Dylanwadu ar Ddosbarthiadau Galwediagethol Safonol i gydnabod llwybrau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg. 

 

YMGYSYLLTIAD RHANDDEILIAID

 

Mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymgysylltu’n strategol â:

Bouygues UK https://www.bouygues-uk.com
Costain https://www.costain.com/
Encon Construction https://www.econgroup.co.uk/
Stride Treglown https://stridetreglown.com/
Morgan Sindall https://www.morgansindall.com/
WRW Construction
CITB https://www.citb.co.uk/
CEW https://www.cewales.org.uk/
ICE  https://www.ice.org.uk/
ECA
CECA https://www.ceca.co.uk/
RIBA
CIOB https://www.ciob.org/
BESA https://www.besa.org.uk/
Coleg y Cymoedd https://www.cymoedd.ac.uk/
Y Prentis https://www.yprentis.co.uk/
Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru  https://www.ntfw.org/
Prifysgol De Cymru https://www.southwales.ac.uk
Prifysgol Caerdydd  https://www.cardiff.ac.uk/
CWIC https://cwic.wales/