Cllr Jane Mudd (Leader)

Councillor Jane Mudd

 

Mae’r Cynghorydd Jane Mudd yn aelod o Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCE) gan ddal portffolio’r bartneriaeth dros Ddysgu, Sgiliau a Dawn. Jane yw Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac mae’n dal y portffolio dros Gyllid Strategol a Thwf Economaidd. Yn ogystal mae’n Ddirprwy Gadeirydd partneriaeth economaidd drawsffiniol Porth y Gorllewin.

 

Gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad mewn addysg uwch ac ymchwil, mae gan Jane gefndir ym maes Tai ac Adfywio. Roedd gynt yn Bennaeth yr Adran Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar ôl arwain yr Adran Gwyddorau Cymunedol Cymhwysol a Diogelu’r Cyhoedd cyn hynny ac mae’n Gymrawd Hŷn yn yr Academi Addysg Uwch. Mae’n Gymrawd y Sefydliad Tai Siartredig ac yn gyn Gadeirydd CIH Cymru, mae hefyd yn aelod Annibynnol o’r Bwrdd Rheoleiddio Tai (Cymru) ac yn gyn Gadeirydd Bwrdd Cartrefi Dinas Casnewydd.

 

Yn ogystal, Jane yw Dirprwy Lywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae’n Gyfarwyddwr Data Cymru; y Cynghorydd Mudd hefyd yw Llefarydd CLlLC dros Faterion Digidol ac Arloesi. Ar hyn o bryd mae’n cynrychioli awdurdodau lleol Gwent ar Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel CLlLC yn ogystal â bod yn Llefarydd CLlLC dros Gydraddoldebau.

 

CCR Chevron