Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

DISGRIFIAD O’R SECTOR

 

Lled-ddargludyddion cyfansawdd sy’n darparu’r dechnoleg sy’n sail i lawer o gynhyrchion a chymwysiadau uwch-dechnoleg heddiw gan gynnwys ffonau clyfar, synwyryddion, a chyfathrebu ffeibr optig. Maent yn gweithredu ar gyflymderau sy’n gyflymach na lled-ddargludyddion traddodiadol seiliedig ar silicon ac yn cynnig nodweddion ffotonig sy’n cael eu defnyddio mewn amrediad eang o dechnolegau synhwyrydd a chyfathrebu optegol. Maent yn gydran hanfodol technolegau sy’n dod i’r amlwg o gysylltedd 5G i awtomeiddio diwydiannol a cherbydau di-yrwr. 

 

Mae’r sector yn flaenoriaeth i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ehangach sy’n gartref i gyflogwyr mawr y sector ar hyd coridor yr M4. CSconnected yw clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd a’r brand cyfunol am nifer cynyddol gwmnïau lled-ddargludydd uwch gan gynnwys IQE, KLA, Microchip, MicroLink Devices UK, nexperia a Rockley Photonics. Ond mae’r gadwyn gyflenwi sy’n porthi’r sector hwn a’r diwydiannau cysylltiedig yn estyn llawer ymhellach. Yn gyfan gwbl, mae mwy na £500m yn cael ei fuddsoddi yn y Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd gyda buddsoddiad Prifysgol Caerdydd, Llywodraethau Cymru a’r DU, a diwydiant lleol.

 

PRIF ROLAU SWYDD

 

Mae rolau swydd allweddol o fewn y sector yn cynnwys:

•  Rheolwyr Cynhyrchu
•  Technegwyr Peirianneg
•  Trydanwyr a Gosodwyr Trydanol
•  Cydosodwyr (cydrannau trydanol ac electronig)
•  Gosodwyr Peiriannau a Gosodwyr-gweithredwyr
•  Technegwyr Datblygu Cynhyrchion
•  Technegwyr Cyfleusterau
•  Technegwyr Graddnodi
•  Peirianwyr Ansawdd

 
HERIAU A CHYFLEOEDD YN Y SECTOR

 

Nododd grŵp Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y cyfleoedd a heriau canlynol ar gyfer Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau’r Bartneriaeth 2022-2025: 

 

•  Parhau i ddatblygu cymwysterau priodol mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol i helpu i fynd i’r afael â phrinderau sgiliau.
•  Gweithio i sicrhau bod Fframweithiau Prentisiaeth (gan gynnwys Prentisiaethau Gradd) yn adlewyrchu anghenion y sector ac yn ategu prosesau cyflenwi.
•  Hyrwyddo cysylltiadau strategol rhwng y sector a Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch (gan gynnwys cynhyrchion fferyllol, modurol a hedfanaeth) i gefnogi newid a/neu ddatblygu gyrfa.
•  Cefnogi cyflenwi gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus CS Connected a’r cynllun gwaith cysylltiedig.
•  Adeiladu ar yr ymagweddau effeithiol at addysg gyrfaoedd, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i hybu’r sector fel opsiwn gyrfa hyfyw.
•  Cefnogi datblygiad gweithlu cynhwysol a chynyddu nifer y menywod sy’n ymuno â’r farchnad lafur.
•  Gweithio mewn partneriaeth i ymchwilio i fylchau a phrinderau sgiliau a datblygu dulliau arloesol a chydweithredol o ymdrin â heriau a welir.
•  Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i sicrhau bod cymorth ariannol ar gyfer hyfforddiant yn cyd-fynd ag anghenion y sector.

 

 
YMGYSYLLTIAD RHANDDEILIAID

 

Mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymgysylltu’n strategol â:

CS Connected https://csconnected.com/

IQE https://www.iqep.com/
SPTS https://www.spts.com/
Catapult https://csa.catapult.org.uk/
Microchip https://www.microchip.com/
KLA https://www.kla.com
Prifysgol Caerdydd  https://www.cardiff.ac.uk/
Coleg Gwent https://www.coleggwent.ac.uk/
Coleg Merthyr  https://www.merthyr.ac.uk/
CAVC https://cavc.ac.uk/en
Coleg Caerdydd a’r Fro  https://www.cardiffmet.ac.uk
Prifysgol Metropolitan Caerdydd  https://www.southwales.ac.uk
Prifysgol De Cymru https://www.open.ac.uk/wales/en
Rockley Photonics https://rockleyphotonics.com/
Coleg Pen-y-bont  https://www1.bridgend.ac.uk/
NDGTA https://ndgta.org/
Coleg Y Cymoeed https://www.cymoedd.ac.uk
ICS https://www.iscwales.com/

CCR Chevron