Francis Cowe

Francis Cowe

 

Dr Francis Cowe yw Cyfarwyddwr Partneriaethau Addysg Bellach ym Mhrifysgol De Cymru. Mae’n gyfrifol am ddatblygiad strategol Prentisiaethau Gradd yn y Brifysgol. Mae’n cynrychioli’r 4pedwar Prifysgol yn Ne-ddwyrain Cymru ar Fwrdd Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn Llywodraethwr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

 

Mae ganddo brofiad o ddatblygu darpariaeth ar gyfer amrediad o sectorau gan gynnwys Cyfiawnder Troseddol, Fferyllol, STEM, Technoleg Ddigidol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yr Heddlu, Prawf a’r Trydydd Sector. Mae wedi sefydlu a datblygu amrediad o gyrsiau cymhwysol ac wedi dylunio lleoliadau ymarfer, cyrsiau DPP i reolwyr ac wedi goruchwylio prosiectau ymchwil gymhwysol. Mae’n gyfarwydd â gweithio ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.

 

Arweiniodd waith Arloesi ac Ymgysylltu De-ddwyrain Cymru gyda 4phedwar Prifysgol a Pphum Coleg gan ganolbwyntio ar Led-ddargluduyddion Cyfansawdd, Dylunio ac Ysgol Ffilm a Theledu Cymru. Mae wedi cynorthwyo wrth adolygu ceisiadau, polisi a chyhoeddiadau i lywodraethau a chyhoeddwyr rhyngwladol. Gweithiai o’r blaen fel Dirprwy Gyfarwyddwr yn UHOVI. Mae wedi ennill a chadw contractau cenedlaethol a rhanbarthol ac wedi cefnogi cyflogwyr i sicrhau cyllid ac arbenigedd priodol i fodloni eu gofynion addysg a hyfforddiant gan gynnwys cefnogi buddsoddwyr o’r tu allan. Mae’n gyfarwydd â gweithio gyda sefydliadau’r llywodraeth, sector preifat a’r trydydd sector. Mae wedi gweithio ar ddatblygu cyrsiau cenedlaethol gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, Cynghorau Sgiliau Sector, Prifysgolion Partner a Cholegau Addysg Bellach.

CCR Chevron