Grant Santos

Grant Santos

 

Mae Grant yn arbenigwr hyfforddiant ac addysg, sydd â mwy nag 20 mlynedd o brofiad lefel uchel yn y diwydiant dysgu seiliedig ar waith a’r agenda sgiliau ehangach. Fel arweinydd uchel ei barch yn y diwydiant, mae Grant yn gyfrannwr ac yn siaradwr rheolaidd ar faterion addysg yn y wasg leol a chenedlaethol. Ef hefyd yw CEO Grŵp Hyfforddiant adnabyddus Educ8.

 

Drwy fod yn graff yn wleidyddol ac yn brofiadol yn fasnachol, mae Grant yn falch o gynnal rôl weithgar ar lawer o fyrddau dylanwadol ledled y wlad, fel Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Mae gan Grant MBA mewn rheoli proffesiynol, a dealltwriaeth drylwyr o strategaeth fusnes ac, ochr yn ochr y â’r Cadeirydd Colin Tucker, mae wedi arwain twf  Educ8 o £500K i fwy nag £8m mewn ychydig o dan 12 mlynedd.

 

Mae gwerthoedd craidd Grant yn canolbwyntio ar ddatblygu diwylliant ac ethos cadarnhaol, sy’n rhan hanfodol o’i athroniaeth ac wedi dod yn gonglfaen ei lwyddiant. Mae Grant yn mwynhau gweithio gyda busnesau a helpu i weithredu strategaethau rheoli newid, ar yr un pryd â meithrin ethos o ddysgu gydol oes.

 

 

CCR Chevron