Guy Lacey

Guy Lacey

 

Mae Guy wedi bod yn Bennaeth / Prif Weithredwr Coleg Gwent ers 2015, ar ôl gweithio o’r blaen mewn nifer o uwch rolau eraill yn y Coleg. Ef hefyd yw Cadeirydd presennol Colegau Cymru – llais Addysg Bellach yng Nghymru.

 

Mae Guy yn athro ac yn rheolwr profiadol ym maes Addysg Bellach a hyfforddiant.

 

Ar ôl gadael yr ysgol, gweithiodd Guy am nifer o flynyddoedd gyda Banc Lloyds gan ddilyn rhaglen datblygu rheolwyr fewnol. Yna dychwelodd i astudio, gan ddarllen Hanes a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen. Ar ôl cwblhau ei radd, aeth ymlaen i Brifysgol Caerfaddon ac enillodd Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwchradd cyn cycnwyn gyrfa dysgu.

 

Mae gan Guy brofiad o nifer o ysgolion a cholegau yn y DU yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, gan ennill gwybodaeth o amrediad eang o ddulliau o gyflwyno sgiliau a hyfforddiant i fodloni anghenion pobl ifanc ac oedolion. Yn ogystal, gweithiodd Guy fel arholwr TGAU ar gyfe cynghrair arholiadau Prifysgol Caergrawnt a gweithiodd fel Arolygydd cymheiriaid gydag Estyn am fwy na deng mlynedd.

 

CCR Chevron