Leigh Hughes

Leigh Hughes

 

Ar hyn o bryd, Leigh yw Cadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac mae’n cynrychioli rhanbarth De-ddwyrain Cymru ar Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Llywodraeth Cymru. Mae wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu ers 30 mlynedd ac mae’n Gyfarwyddwr CSR dros Bouygues Construction UK a’i endidau. Mae Bouygues UK, Bouygues Energies & Services, Bouygues TP a VSL yn cyflenwi gwasanaethau adeiladu, tai, datblygu, adfywio, perfformiad ynni a rheolaeth gan gynnwys atebion arloesol dinasoedd clyfar, gan ddefnyddio eu profiad byd-eang a lleol ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus.

 

Mae’r cwmni yn cyflogi tua 4,400 o bobl ar draws y busnesau yn y DU.

 

Leigh yw Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol Cymru CITB

 

CCR Chevron