Adroddiad Blynyddol 2018

Cyflwyniad

Mae deg awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRhC): Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy a Casnewydd. Amcangyfrifir bod y boblogaeth tua 1.5m , sef 48.7% o boblogaeth Cymru. O’r boblogaeth hon, amcangyfrifir bod 960,000 o bobl oedran gwaith (16-64 oed). Mae’r rhanbarth yn cynhyrchu 51% o werth ychwanegol crynswth (GVA) Cymru.

Mae amrywiad sylweddol rhwng yr economïau lleol yn y rhanbarth. Er enghraifft, mae rhai awdurdodau lleol yn cyflogi cyfradd uwch o’r gweithlu mewn sectorau eang megis cynhyrchu, nag eraill. .

Yn ein Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau 2016 a 2017, blaenoriaethodd dadansoddiad o’r economi ranbarthol yn seiliedig ar werth ychwanegol crynswth allbynnau a maint y sectorau diwydiannol bum sector i’r rhanbarth. Ystyriwyd taw ymhlith y rhain mae’r galw mwyaf am lafur a sgiliau dros y pum mlynedd nesaf ac i fod o bwysigrwydd strategol.

Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • deunyddiau a gweithgynhyrchu datblygedig (AMM);
  • adeiladu (AD);
  • gwasanaethau ariannol, cyfreithiol a phroffesiynol (ACP);
  • yr economi ddynol sylfaenol gan gynnwys addysg, iechyd a gofal cymdeithasol (AIGC); a
  • digidol (TGCh/digidol/creadigol).

Gyda’i gilydd mae’r sector hyn yn 78% o werth ychwanegol crynswth yr economi ranbarthol. Yn 2018/19, bydd y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol (PSR) yn gwneud mwy o waith gyda chyflogwyr o bob rhan o’r economi sylfaenol drwy gynnwys lletygarwch a thwristiaeth a bydd hefyd yn ychwanegu awyrofod a hedfanaeth i flaenoriaethau’r sector.

 

Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd , sy’n Fargen Ddinesig gwerth £1.28bn rhwng llywodraethau Cymru a’r DU, yn dal i ddylanwadu ar fuddsoddiad cyfalaf a seilwaith ar draws y rhanbarth. Mae ganddi, a bydd ganddi, rôl allweddol wrth lunio economi’r rhanbarth yn y dyfodol. Dros oes y fargen, rhagwelir y bydd yn codi £4bn yn ychwanegol o fuddsoddiad sector preifat yn y rhanbarth gan greu hyd at 25,000 o swyddi newydd. Prif feysydd y Fargen yw:

  • Buddsoddiad o £1.2bn yn seilwaith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd;
  • cymorth i arloesi a gwella’r rhwydwaith digidol;
  • datblygu gweithlu medrus a mynd i’r afael â diweithdra;
  • cefnogi twf menter a busnes; a
  • datblygu ac adfywio tai.

 

Seilwaith a Datblygiadau Parhaus

Gwelwyd buddsoddiadau sylweddol yn y rhanbarth dros y blynyddoedd diwethaf gyda mwy o brojectau ar y gweill i’r dyfodol. Mae hefyd ddatblygiadau eraill fel mentrau polisi a gaiff effaith ar y rhanbarth. Ymhlith rhai enghreifftiau o fuddsoddiadau a datblygiadau diweddar yn yr economi ranbarthol mae:

 

Metro De Cymru

Yn rhan allweddol o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, bydd y buddsoddiad £734m hwn yn integreiddio dulliau trafnidiaeth gwahanol yn well ar draws y rhanbarth. Hefyd, mae cytundeb mewn egwyddor ar gyfer ail-ddatblygiad £180m o hyb trafnidiaeth Caerdydd gan gynnwys £40m i greu cyfnewidfa drafnidiaeth ganolog newydd.

Clwstwr Lled-ddargludydd Cyfansawdd

Buddsoddiad o £38m i gefnogi datblygiad y Clwstwr Lled-Ddargludydd Cyfansawdd gan greu mwy na 2,000 o swyddi. Mae hon yn gydfenter rhwng arbenigwyr lled-ddargludyddion cyfansawdd IQE a Phrifysgol Caerdydd. Bydd yn gosod y rhanbarth mewn sefyllfa lle mae’n arwain y byd ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd. Mae’r swyddi a grëir o’r fenter yn debygol o fod yn rhai medrus iawn, arbenigol a gwerth ychwanegol sylweddol.

Datblygiad Tai Y Felin, Caerdydd

Datblygiad tai parhaus gwerth £100m yng Ngorllewin Caerdydd sy’n trawsnewid safle diwydiannol segur 53 erw yn bentref dinesig 800 tŷ. Amcangyfrifwyd i’r project greu 1,000 o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu a’i fod wedi creu nifer sylweddol o brentisiaethau a chyfleoedd hyfforddiant yn y gymuned leol.

Pencadlys Newydd Trafnidiaeth Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dewis lleoli ei bencadlys newydd ym Mharc Bro Taf newydd Pontypridd. Ategir ailddatblygiad y parc gan £30m gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, £10m gan Lywodraeth Cymru a £7m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Bydd gan y pencadlys newydd gannoedd o staff yno’n gweithio i’r cwmni nid er elw newydd. Bydd cysylltedd gwell ym Mhontypridd yn arwain at ddalgylch eang o ddarpar gyflogeion, yn benodol yn y cymoedd, i Trafnidiaeth Cymru, gweithredwr y Metro a phartneriaid cyflawni.

Tasglu Gweinidogol i Dde Cymru

Gan wybod gan bod gymoedd De Cymru set unigryw o heriau dwfn, a adlewyrchir yn ansawdd a hyd bywyd yn ogystal â chyrhaeddiad addysgol a sgiliau, sefydlwyd y Tasglu Gweinidogol i Dde Cymru yn 2016 i weithio gyda’r sector cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector i gyflawni mwy na 60 cam â blaenoriaeth. Yn eu plith mae: cau’r blwch sgiliau rhwng Cymoedd De Cymru a gweddill Cymru; creu swyddi newydd diogel a chynaliadwy a ategir gan y sgiliau cywir; a chreu hybiau strategol newydd. Yn hollbwysig, mae’r camau hefyd yn cynnwys cynlluniau i gefnogi’r economi sylfaenol a digidol, busnesau newydd a chyfleoedd i greu swyddi o gylch buddsoddiad seilwaith yn y rhanbarth.

 

Caiff datblygiadau yn y rhanbarthau cyfagos hefyd effaith ar Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Maen nhw’n debygol o gynnig cyfleoedd cyflogaeth i weithwyr yn y rhanbarth, buddion i fusnesau drwy gadwyni cyflenwi, a sgîl-fuddion eraill. Ymhlith yr enghreifftiau o ddau ddatblygiad mawr mewn ardaloedd cyfagos mae:

 

Hinkley Point

Mae adeiladu atomfa dau adweithydd mawr yng Ngwlad yr Haf, am tua £18bn, hefyd yn debygol o effeithio ar y rhanbarth. Mae’n debygol o fod yn cyflogi pobl o’n rhanbarth.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Daw’r buddsoddiad £1.3bn i Abertawe a Gorllewin Cymru â mwy o fuddsoddiad i Gymru. Mae’r Fargen yn cynnwys 11 project ar draws pedair thema allweddol; cyflymu economaidd, gwyddorau bywyd a lles, ynni, a gweithgynhyrchu ‘clyfar’.

 

Rhaid hefyd ystyried datblygiadau yn Ne-orllewin Lloegr, yn benodol yn ardal Bryste, wrth fwrw ymlaen. Daw’r diwedd ar dollau Pont Hafren yn Rhagfyr 2018 fwy na thebyg â buddion i’r rhanbarth y byddwn yn parhau i’w monitro.

Heriau

Wrth nodi heriau dros y blynyddoedd diwethaf, rydym yn cydnabod eu bod yn hirsefydledig a hirdymor a byddai angen atebion priodol. Felly nis newidiwyd mohonynt. Mae’n bwysig nodi bod yr adroddiad hwn yn ymwneud â’r galw a ragwelir i ofynion diwydiannol ac nid dibenion ehangach addysg a phryd a gwedd darpariaeth addysgol yn y rhanbarth a bydd nifer o ysgogwyr iddo. Nid yw’r cyngor hwn wedi ystyried ar wahân materion ehangach NEET, pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, Ehangu Mynediad a chynhwysiant cymdeithasol. Byddwn yn gobeithio iddo ategu’r agenda honno ond nid yw’n disodli’r angen i hynny ddigwydd. Bydd angen i ni hefyd ystyried unrhyw baramedrau newidiol yn y dyfodol yn sgîl newid ym mholisi’r llywodraeth. Mae Gofal Cymdeithasol yn enghraifft dda o hyn.

  • 1. Codi GVA
    Cydnabuom yr angen i ddatblygu cyflogaeth a sgiliau’n y farchnad lafur ranbarthol sy’n ategu strategaethau buddsoddi ac yn cyflawni twf economaidd. Caiff buddsoddiad mewn seilwaith yn y rhanbarth a’r ardaloedd cyfagos effaith sylweddol ar y galw am gyflogaeth as sgiliau cyfredol.
  • 2. Blychau a Phrinderau Sgiliau
    Mae’r galw a ragwelir ar lafur yn fwy na nifer ddisgwyliedig y sawl fydd yn dod i rai galwedigaethau gan greu prinderau sgiliau tra bod blychau sgiliau’n cynyddol wrth i’r galw am sgiliau ddatblygu mewn ymateb i newid dulliau gweithio, gan ddefnyddio technegol newydd a chyflwyno awtomeiddio.
    Mae cyflenwad llafur i ateb y galw hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau megis:
    1) darpariaeth hyfforddiant briodol yn y rhanbarth i bob oedran, gan ystyried yr angen i hyfforddi hyfforddwyr o ran anghenion sgiliau cyfredol a newidiol;
    2) cadw gweithlu a allai gael ei ddenu gan gyflogau uwch mewn rhannau eraill o’r DU, a
    3) darparu ar gyfer uwchsgilio oedolion sy’n anweithredol neu eisoes yn y gweithlu, i fodloni gofynion sgiliau newidiol swyddi newydd, yn benodol wrth fabwysiadu sgiliau digidol a Diwydiant 4.0.
  • 3. Lefelau Cymhwyso
    Mae lefelau cymhwyso Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn fwy na chyfartaledd Cymru ond nid ydynt o hyd yn bodloni’r galw am sgiliau lefel uwch, sy’n dal i gynyddu. Disgwylir i 54% o’r sawl mewn cyflogaeth feddu ar gymwysterau Lefel 4 neu uwch erbyn 2024, a rhagwelir gostyngiad cyffredinol yn y nifer â dim cymwysterau neu lefel isel o gymwysterau. Yr eithriad yw i’r galwedigaethau gofalu, gwasanaeth personol a gweinyddol sy’n rhagweld cynnydd yn y galw am gymwysterau Lefel 2 a Lefel 3, a ysgogir yn rhannol gan ofynion mandadol.
  • 4. Prentisiaethau
    Dim ond 13% o gyflogwyr sy’n defnyddio prentisiaethau a dim ond 1.5% o blant ysgol blwyddyn 11 aeth yn uniongyrchol i brentisiaethau’r llynedd. Mae cyflwyno’r ardoll Prentisiaeth yn arwain at alw cynyddol am Brentisiaethau, yn arbennig ar draws sefydliadau mawr a sector cyhoeddus ac mewn rhai sectorau mae’n fwy na chyflenwad ac argaeledd cyllid Prentisiaeth. Fodd bynnag, mae o hyd heriau o ran canfyddiadau, gan gynnwys cydraddoldeb â llwybrau academaidd a swyddi gwag prentisiaeth i ddenu pobl sy’n gadael yr ysgol i fynd yn syth i waith. Hefyd, mae o hyd angen i gynyddu nifer ac ystod y cyfleoedd prentisiaeth gan gynnwys prentisiaethau lefel uwch a gradd.
  • 5. Cyngor a Chanllawiau ar Yrfaoedd
    Cydnabuom fod diffyg paru rhwng y meysydd a ddewiswyd gan ddysgwyr a’r galwedigaethau hynny’n yr economi sy’n cynnig y rhagolygon gorau o ran cyflogaeth, enillion a datblygu gyrfa. Gallai’r prinderau mewn sgiliau a ragwelir gael ei leihau os gall cynghorwyr gyrfaoedd, athrawon a chynrychiolwyr y diwydiant gydweithio i farchnata cyfleoedd yn effeithiol i rieni a myfyrwyr gyda phwyslais ar y Sectorau Blaenoriaeth Rhanbarthol.
  • 6. Diweithdra ac Anweithgarwch Economaidd
    Ar draws y rhanbarth mae costau diweithdra uchel a phrinderau sgiliau a ragwelir oherwydd tueddiadau demograffig megis poblogaeth a gweithlu sy’n heneiddio.
  • 7. Gwella Canlyniadau Dysgwyr
    Cydnabuom yr angen i wella ymhellach ganlyniadau dysgwyr yn y rhanbarth. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau i ddata cyrchfannau sy’n gwneud hon yn dasg anodd.
  • 8. Brexit a Chyllid yr Undeb Ewropeaidd
    Mae effaith Brexit ar y rhanbarth yn dal yn anodd ei deall gan fod perthynas y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol dal yn anhysbys. Cydnabyddwn fod hyn yn debygol o gael effaith fawr ar y llafurlu o ran mudo yn ogystal â cholli cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn y rhanbarth.

Blaenoriaethau i’r Rhanbarth

Nododd Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd 2017 wyth Blaenoriaeth Ranbarthol ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau, y mae chwech yn cael eu cadw fel cyd-destun a fframwaith i gyflawni’n y dyfodol ac wedi’u nodi yng Nghynllun Busnes Strategol pum mlynedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ynghyd ag ymrwymiad i weithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau ar gyd-ddylunio’r rhaglen gwaith ac iechyd.

  • 1. Cyflawni cyflogaeth a chymorth sgiliau i ddiwydiant, seilwaith a buddsoddiadau eraill i alluogi twf- creu atebion hyblyg wedi’u teilwra drwy academïau neu ganolfannau rhagoriaeth rhanbarthol all ymateb i’r anghenion a nodwyd a defnyddio cymalau cymdeithasol i sicrhau’r lefel uchaf posibl o ymgysylltu â sgiliau a photensial cyflogaeth unrhyw fuddsoddiad gan gynnwys cyflogaeth a sgiliau i adeiladu cadwyni cyflenwi lleol/cadwyni gwerth a datblygu capasiti a galluedd yn y system addysg i ymateb.
  • 2. Cefnogi’r diwydiant drwy sectorau blaenoriaeth i fynd i’r afael â blychau a phrinderau sgiliau – ymatebion i alw am sgiliau arbenigol neu dechnegol fel y’u diffinnir gan sectorau unigol, a hefyd sgiliau cyffredin neu drawsbynciol fel sgiliau digidol, arweinyddiaeth a rheoli, hyfforddi’r hyfforddwr, ‘sgiliau pobl a phersonol’ neu sgiliau meddal a rhaglenni sgiliau oedolion.
  • 3. Datblygu sgiliau lefel uwch i baratoi’r gweithlu at y dyfodol– cynyddu ystod y cymwysterau lefel uwch yn y pynciau technegol ac i ateb y galw am reolwyr, gweithwyr proffesiynol a gweithwyr proffesiynol mewn TGCh/digidol, gwasanaethau proffesiynol a gweithgynhyrchu ar Lefel 4 a thu hwnt. Arloesi dysgu i annog a chefnogi dyheadau dysgwyr i gyflawni sgiliau lefel uwch, gan sicrhau dysgu a llwybrau carlam i annog cynnydd y tu hwnt i lefelau 2 a 3. Gwella cyrhaeddiad dysgwyr ar draws y rhanbarth i ateb y galw a ragwelir am sgiliau lefel uwch.
  • 4. Cynyddu nifer ac ystod y prentisiaethau– cynyddu nifer ac ystod y prentisiaethau a gynigir a sicrhau’r galw uchaf gan gyflogwyr mewn ymateb i’r Ardoll Prentisiaeth. Ymestyn ystod y prentisiaethau lefel uwch a chyflwyno prentisiaethau gradd fel dewis amgen, a chymwysterau cost-effeithiol sy’n arwain at gymwysterau lefel uwch, gyda mwy o gyfleoedd i symud i gyflogaeth. Cefnogi prentisiaethau a rennir mewn ymateb i’r galw gan y diwydiant ac yn benodol gan fusnesau bach a chanolig eu maint.
  • 5. Gwella ymgysylltu â’r diwydiant gydag addysg a marchnata cyfleoedd a llwybrau gyrfaol– datblygu ymgysylltu a gynhelir gan y diwydiant ag ysgolion a cholegau i feithrin cysylltiadau addysgol/diwydiannol. Cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus athrawon a thiwtoriaid mewn sgiliau sy’n berthnasol i’r diwydiant. Gwella gwybodaeth a marchnata opsiynau gyrfaol sy’n gysylltiedig â chyfleoedd hyfforddi, defnyddio ymgysylltu â diwydiant i herio canfyddiadau a hyrwyddo cydraddoldeb rhwng llwybrau galwedigaethol, prentisiaethau a chymwysterau academaidd.
  • 6. Datblygu cynllun cyflogadwyedd rhanbarthol i gael mwy o bobl i mewn i waith – datblygu cynllun rhanbarthol i gynnwys pobl sy’n economaidd anweithgar ac yn ddi-waith gan gynnwys cyn-droseddwyr a’u hannog yn ôl i’r gwaith gyda hyfforddiant priodol a chymorth cyn ac ar ôl cyflogaeth. Defnyddio cymalau cymdeithasol mewn contractau i greu cyfleoedd swyddi a lleoliadau i’r sawl sy’n ceisio gwaith.

Mae’r ddwy flaenoriaeth olaf o’r wyth blaenoriaeth ranbarthol o ran cyflogaeth o sgiliau o hyd yn berthnasol ond mae angen cydnabod nad yw’r cylch gwaith ym meddiant y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol. Bydd yr angen i wella data cyrchfannau’n dibynnu ar y camau gweithredu y penderfynir arnynt gan Lywodraeth Cymru ac mae cynllunio olyniad ar gyfer rhaglenni a ariennir gan Ewrop yn graidd i’r Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol (TYRh). Whilst the Regional Skills Partnership has an interest and would wish to support these developments, it is accepted that the primary responsibility and the resource for any action to address these priorities is with the agencies mentioned and not with the Regional Skills Partnership.Er bod gan y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol fuddiant ac yr hoffai gefnogi’r datblygiadau hyn, derbynnir taw gan yr asiantaethau y soniwyd amdanynt, ac nid y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol, y mae’r prif gyfrifoldeb a nhw ddylai ddarparu adnoddau i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn.

  • 7. Gwella data cyrchfannau i sicrhau canlyniadau dysgu gwell– mae angen gwella data cyrchfannau. Gall data ansawdd mewn addysg uwch ddangos canlyniadau dysgwyr ac effaith a gwerth buddsoddi mewn sgiliau; mae angen ymestyn hyn ar draws addysg uwch a dysgu yn y gwaith. Gallai mesurau tymor hwy nodi llwybrau at gyflogaeth, perthnasedd dysgu a symud mewnol ac ar draws galwedigaethau gwahanol i fesur canlyniadau dysgwyr dros amser.
  • 8. Datblygu cynlluniau olyniaeth ar gyfer rhaglenni a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit - Monitro datblygiadau Brexit ac asesu risg/effaith ar wasanaethau sydd ar hyn o bryd yn cael eu cynnal gan weithrediadau Cronfa Gymdeithasol Ewrop drwy ffrwd waith Cyllid CPRC RSP yr UE. Gan weithio drwy’r Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol (TYRh), hwyluso gweithgor i gynnwys Llywodraeth Cymru, CLlLC a WEFO fydd yn rhannu gwybodaeth, yn ystyried cynlluniau i liniaru risgiau ac ystyried argaeledd setiau data WEFO a allai ategu’r gwaith hwn.
    Drwy’r rhwydweithiau Cronfa Gymdeithasol Ewrop rhanbarthol, ystyried cynnwys gweithrediadau, cynlluniau RME a strategaethau gadael. Ystyried y ffordd orau o rannu gwybodaeth am arfer gorau â’r rhanbarth i lywio rhaglenni yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnig:
    • Argymhellion i Lywodraeth Cymru o ran datblygu rhaglenni buddsoddi, sgiliau a chyflogadwyedd rhanbarthol yn y dyfodol.
    • Llywio rhaglen Sgiliau ar gyfer y Dyfodol y Fargen Ddinesig a’r Cynllun Cyflogadwyedd ar effaith Brexit yn y dyfodol o ran cyflawni ymyriadau sgiliau a chyflogadwyedd.

 

Methodoleg

Rydym wedi defnyddio Gwybodaeth y Farchnad Lafur i lywio ein cynlluniau cynnwys rhanddeiliaid a sgiliau. Ein nod oedd dechrau gyda’r rhagfynegiadau hirdymor gorau oedd ar gael i’r rhanbarth; profi p’un a ydynt dal yn wir; a datblygu gwybodaeth a data pellach ar y sefyllfa bresennol o fewn sectorau diwydiannol unigol. Rydym wedi llunio dadansoddiad o’n sectorau blaenoriaeth.
 

Mae’r Adroddiadau Gwybodaeth Ranbarthol am y Farchnad Lafur (RLMIR) yn cynnwys ystod o ddata i helpu i lunio darlun o’r farchnad lafur gyfredol a rhagfynegiadau wrth fwrw ymlaen. I wella ein dadansoddiad, rydym wedi caffael mynediad i ddata Marchnad Lafur Emsi. Ar gyfer eleni, rydym wedi defnyddio’r data hwn i ategu ein dadansoddiad, rhoi cyd-destun ychwanegol ac i ofyn cwestiynau penodol gan ddefnyddio data sydd ar gael yn gyhoeddus o RLMIR. Byddwn yn ymchwilio ymhellach i sut gellir defnyddio’r data hwn yn ein cynlluniau dros y blynyddoedd nesaf.

 

Mae data Dyfodol Gwaith 2014-2024 yn rhoi amcangyfrifon cyflogaeth a chyfeiriadau eang i nifer o ddiwydiannau. Lle y bo’n bosibl a chadarn rydym wedi cymharu’r amcangyfrifon hyn â data cyfredol i asesu p’un a yw sectorau yn yr economi ranbarthol yn tyfu a/neu’n lleihau’n unol â rhagfynegiadau blaenorol. Drwy wneud hyn, gallwn gael cipolwg o ‘iechyd’ cymharol diwydiant a’i ddefnyddio fel sail ein dadansoddiad. Gan adeiladu ar y dadansoddiad hwn, rydym wedi defnyddio data ychwanegol o adnoddau megis yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr diweddaraf i roi mwy o gyd-destun ar flychau a phrinderau penodol yn y sectorau hyn.

 

Dylid nodi, er bod Dyfodol Gwaith yn cynnig rhagfynegiadau tymor hwy cadarn, mae’r cafeatau arferol ynghylch rhagfynegiadau hirdymor yn berthnasol. Mae’r adroddiad diweddaraf o 2014 a bydd amrywiadau dros y pedair blynedd diwethaf sydd wedi effeithio ar yr economi, ac eithrio amrywiadau rhwng rhagfynegiadau a symiau gwirioneddol. Rhyddhawyd yr adroddiad diweddaraf cyn Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd 2016 a fydd wedi, ac a gaiff o hyd, effaith sylweddol ar y rhanbarth.

 

Gall cymariaethau ar gyfer sectorau diwydiannol gwahanol gan ddefnyddio ffynonellau data gwahanol fod yn heriol. Mae ffynonellau data’n tueddu i ddefnyddio codau Dosbarthu Diwydiannol Safonol (Codau SIC) a gydnabyddir yn rhyngwladol i gategoreiddio gweithgareddau diwydiannol mewn sectorau gwahanol. Mae’r codau hyn ar bedair lefel wahanol gan amrywio o’r grwpiau ehangaf (megis gweithgynhyrchu) i gategorïau manwl a phenodol iawn o fewn pob sector (megis cynhyrchu cynhyrchion tybaco). Gall fod amrywiadau sylweddol o ran pa gategorïau a chydgasgliadau a ddefnyddia ffynonellau data gwahanol. Hefyd, gallai fod materion ynghylch pa ddata sydd ar gael mewn lefelau daearyddol gwahanol, gyda data fel arfer yn anos ei gaffael ar lefel ddaearyddol lai. Lle y bo’n bosibl, a lle mae ffit i ddata rhwng ffynonellau, rydym wedi gwneud y cymariaethau canlynol. Lle rydym wedi cael anawsterau wrth wneud y cymariaethau hyn, rydym wedi manylu ar rai o’r materion ac ychwanegu cafeatau gylch y cymhariad. Mae tabl llawn o’n cymariaethau’n ôl sector diwydiannol ar gael yn yr atodiad.

Cynhyrchu

Oherwydd amrywiadau yn y categorïau data, mae’n anodd gwneud cymariaethau i’r sector deunyddiau a gweithgynhyrchu datblygedig. At ddibenion dadansoddiad cadarn, gwnaed cymariaethau ar draws y sector cynhyrchu sy’n cynnwys rhai diwydiannau gweithgynhyrchu eraill. Rhagfynegwyd y byddai cyflogaeth yn y sector cynhyrchu’n disgyn o 82,200 o bobl i 72,200 o bobl rhwng 2014 a 2024. Amcangyfrifir yn 2016 fod 82,100 o bobl wedi’u cyflogi yn y sector. Ymddengys fod y sector, yn wahanol i’r rhagfynegiadau, heb newid o ran nifer y bobl a gyflogir ynddo. Awgryma hyn o fewn y rhanbarth fod y sector cynhyrchu’n gymharol sefydlog a’i fod dal yn gyflogwr pwysig.

 

Adroddir bod gan y sector brinder sgiliau o 10% sef yr ail uchaf ar draws y rhanbarth. Adroddir blwch sgiliau o 25% sef yr uchaf yn y rhanbarth. Awgryma hyn nad yw’r farchnad lafur ar hyn o bryd yn bodloni anghenion y sector hwn.

 

Awgryma data Emsi taw’r galwedigaethau amlycaf ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu yn ein rhanbarth yw; rheolwyr a chyfarwyddwyr cynhyrchu; cynhyrchu a chynnal gwaith dur; bwyd, gweithredwyr proses diod a thybaco; galwedigaethau storio elfennol; pecynwyr, potelwyr, caniwyr a llenwyr.

Adeiladu

Rhagfynegwyd y byddai’r sector Adeiladu’n tyfu o 43,200 o bobl i 46,900 o bobl rhwng 2014 a 2024. Amcangyfrifir yn 2016 fod 45,000 o bobl wedi’u cyflogi yn y sector. Mae twf gweddol yn y sector o ran niferoedd cyflogi fel y’u rhagfynegwyd. Adroddir bod diffyg sgiliau o 8% yn y sector ac adroddir bod blwch sgiliau o 16% sydd ill dau fymryn yn fwy na chyfartaledd y rhanbarth.

 

Mae data Emsi’n awgrymu taw’r galwedigaethau amlycaf yn y sector hwn i’r rhanbarth yw; trydanwyr a gosodwyr trydanol, rheolwyr a chyfarwyddwyr cynhyrchu ym maes adeiladu, galwedigaethau adeiladu elfennol, seiri a joiners, peirianwyr plymio, gwresogi ac awyru. Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi amcangyfrif fod y galw uchaf yn y sector adeiladu ar draws y rhanbarth am y galwedigaethau canlynol yn 2017: masnachwyr pren a gosodwyr mewnol; gweithwyr proffesiynol nad ydynt yn adeiladwyr, staff technegol, TG a swyddfa arall; plymio a gwresogi; crefftau awyru; rheolwyr proses adeiladu eraill; crefftau a gosodwyr trydan; gosodwyr briciau; peintwyr ac addurnwyr.

Yr Economi Ddynol Sylfaenol

Mae’r economi ddynol sylfaenol (iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg) yn sector â blaenoriaeth i’r rhanbarth. Mae Dyfodol Gweithiol 2014-2024 wedi rhagfynegi i gyflogaeth mewn addysg leihau fymryn o 67,600 yn 2014 i 66,900 yn 2024. Disgwylir i gyflogaeth mewn gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol gynyddu o 102,200 yn 2014 i 105,800 yn 2024.

 

Nid oes modd gwneud cymariaethau i’r diwydiannau hyn gan ddefnyddio ffynonellau data cyhoeddus y llywodraeth gan fod y data ar gyfer y rhanbarth ond ar gael ar lefel sector eang sydd hefyd yn cynnwys gweinyddu cyhoeddus ac amddiffyn. Ar y lefel hon, rhagfynegwyd i’r sector dyfu o 213,600 o gyflogeion i 216,100 dros y cyfnod. Er, yn 2016, amcangyfrifwyd iddo leihau i 205,200. Ar lefel Cymru, gwelwyd gostyngiad mewn gweithgareddau addysg ac iechyd pobl a gwaith cymdeithasol rhwng 2014 a 2016, gyda’r olaf yn gweld gostyngiad sylweddol o 209,400 i 205,100 yn erbyn y duedd a ragfynegir.

 

Adroddir prinder sgiliau o 2% sef yr ail leiaf yng Nghymru. Adroddir bod blwch sgiliau o 19%. Adroddir prinder sgiliau o 5% mewn iechyd a gwaith cymdeithasol, a blwch sgiliau o 13% sydd ill dau fymryn yn llai na chyfartaledd y rhanbarth.

Dengys y niferoedd hyn yr angen i ymchwilio ymhellach yr economi ddynol sylfaenol oherwydd ymddengys fod cyfeiriad presennol y sector yn wahanol i’r rhagfynegiadau. I ddeall hyn yn well, rydym wedi defnyddio data Emsi sy’n awgrymu gostyngiad mewn cyflogaeth o ran gweithgareddau dynol, iechyd a gwaith cymdeithasol ar draws y rhanbarth 2013-2016 cyn cynnydd mawr yn 2017. Hefyd adroddir taw gweithwyr gofal a gweithwyr cartref, a nyrsys, yw’r ddwy alwedigaeth sy’n tyfu gyflymaf yn y rhanbarth a dengys data swyddi gwag yn y diwydiant hwn hysbysebu am rolau. Adroddir taw gweithgareddau ysbyty yw’r diwydiant sy’n tyfu gyflymaf o ran cyflogaeth. O ystyried hyn, credwn nad yw’r gostyngiad hwn mewn cyflogaeth o reidrwydd yn gynrychioliadol o’r duedd tymor canolig.

 

Y galwedigaethau amlycaf yn y sector hwn i’r rhanbarth yn ôl Emsi yw; gweithwyr gofal a gofalwyr cartref; nyrsys; cynorthwywyr nyrsio a nyrsys ategol; a gweithwyr proffesiynol addysgu addysg gynradd a meithrin. Byddwn yn parhau i fonitro niferoedd cyflogaeth yn y sector hwn dros y blynyddoedd nesaf ac yn ymgynghori ymhellach â chynrychiolwyr y diwydiant i ddeall yn well y cyfeiriad i’r sector hwn ac asesu lle gallai’r heriau fod. Cynlluniwn yn unol â hynny os nad yw’r sector yn tyfu fel y rhagwelwyd.

Gwasanaethau Ariannol, Cyfreithiol a Phroffesiynol

Sector blaenoriaeth arall i’r rhanbarth yw gwasanaethau ariannol, cyfreithiol a phroffesiynol. Mae darlun cymysg i is-sectorau yn y sector blaenoriaeth hwn. Mae gostyngiad bach iawn mewn eiddo tiriog, yn groesi i’r rhagfynegiadau. Mae twf gweddill o ran cyllid ac yswiriant yn unol â rhagfynegiadau. Amcangyfrifwyd bod gwasanaethau proffesiynol a chymorth yn cyflogi 90,100 o bobl yn 2016 sy’n agos i’r 92,700 cyfunol a ragfynegir i 2024. Awgryma hyn y gallai’r is-sectorau hyn fod yn tyfu’n gynt na’r disgwyl.

 

Adroddir prinder sgiliau cyllid ac yswiriant o 4%, sydd ymhlith yr isaf yn y rhanbarth. Adroddir blwch sgiliau o 23% sydd ymhlith yr uchaf yng Nghymru. Awgryma hyn tra bod gan y sector rai problemau wrth recriwtio staff newydd neu alw ar y farchnad lafur, mae angen mwy o hyfforddiant a chymorth ar y gweithlu. Adroddid prinderau sgiliau mewn eiddo tiriog, gwasanaethau proffesiynol a gwasanaethau cymorth o 6% a blychau sgiliau o 13% sy’n agos i gyfartaledd y rhanbarth.

 

Awgryma data Emsi taw'r swyddi amlycaf yn y rhanbarth yn y sector yw clercod banc a swyddfa'r post; pensiynau a chlercod yswiriant a chymorth; dadansoddwyr a chynghorwyr cyllid a buddsoddi; rheolwyr a chyfarwyddwr sefydliadau ariannol; a rheolwyr cyfrifon ariannol.

TGCh a Thechnolegau Digidol

Nid yw cymariaethau ar gyfer y sector digidol yn hawdd ac maen nhw’n cyflwyno her sylweddol gyda’r setiau data sydd ar gael yn gyhoeddus. Mae TGCh yn fwyfwy ymsefydledig mewn mwy a mwy o sectorau wrth i’r economi symud at fod yn ‘economi ddigidol’. Gall gweithgareddau a flaenoriaethir gan ein rhanbarth drawstorri sawl diwydiant – yn benodol creadigol a’r celfyddydau. I oresgyn yr her hon, a defnyddio Emsi, rydym wedi gallu creu agregiad technolegau TGCh a digidol sy’n paru â’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ystyried yn ddiwydiannau economi ddigidol.

 

Awgryma data Emsi fod y sector blaenoriaeth hwn yn cyflogi 21,010 o bobl yn 2017. Erbyn 2024 amcangyfrifir y bydd yn cyflogi 24,057 o bobl. Y swyddi amlycaf yn y sector hwn yn y rhanbarth yw rhaglenwyr a gweithwyr proffesiynol datblygu meddalwedd; technoleg gwybodaeth a gweithwyr proffesiynol telathrebu; rheolwyr arbenigol TG; cyfrifon gwerthiannau a rheolwyr datblygu busnes; dadansoddwyr, penseiri a dylunwyr systemau TG.

 

Nid yw’n bosibl nodi blychau sgiliau a phrinderau ar draws y sector hwn oherwydd y ffordd y caiff yr Arolwg Cyflogaeth a Sgiliau ei gategoreiddio. O ystyried y cyfyngiadau hyn, byddwn yn ystyried TGCh a technolegau digidol yn faes sydd angen mwy o sylw wrth gynllunio ein Harolwg Sgiliau Busnes yn y dyfodol.

Swyddi gwag

Er bod gennym ddarlun o ffigurau cyflogaeth mewn sectorau unigol, mae deall nifer y swyddi gwag mewn diwydiannau’n fwy heriol.

 

Mae data Emsi’n ein galluogi i weld nifer y swyddi gwag ar draws y rhanbarth o ran galwedigaethau unigol. Er nad yw hyn yn rhoi dadansoddiad sector o swyddi gwag mae’n rhoi mwy o wybodaeth ychwanegol ac mae’n allweddol wrth ddangos lle mae cyfleoedd gyrfaol.

Blychau a Phrinderau Sgiliau ar draws pob Sector

Ni ddiweddarwyd yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr ers ein hadroddiad diwethaf felly nid yw ein gwybodaeth wedi newid. Byddwn yn asesu canlyniadau’r Arolwg Sgiliau cyflogwyr newydd, a ddylai fod yn haf 2018, ac yn cynllunio’n unol â hwy.

Cynlluniau Gweithredu

Cyfeiriadau

While we have a picture of employment figures in individual sectors, understanding the number of vacancies in industries is more challenging. Emsi data allows us to see the number of vacancies across the region for individual occupations. While this does not provide a sectoral breakdown of vacancies, it does provide additional intelligence and plays a crucial role in showing where career opportunities exist.

CCR Chevron