Bwrdd a Llywodraethu

Cydnabyddir y Bwrdd Sgiliau a Chyflogaeth fel un o’r pedwar Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a gefnogir gan Swyddfa Rheoli Rhaglenni Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac mae’n gweithredu fel bwrdd ymgynghorol i gabinet PRC.  Mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau wedi eu hintegreiddio i strwythurau rhanbarthol ac maent yn cefnogi cyflawniad agenda cyflogaeth a sgiliau PRC a rennir, ar gyfer y Fargen Ddinesig a Llywodraeth Cymru.

 

Aelod o’r Diwydiant sy’n cadeirio’r bwrdd, a denir aelodaeth o amrywiaeth o randdeiliaid sy’n dod fel cynrychiolwyr eu sectorau neu rwydweithiau diwydiant. Mae rôl arsylwi gan y cadeirydd ar y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol a’r Cyngor Busnes Rhanbarthol, er mwyn sicrhau bod Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Partneriaeth Sgiliau PRC yn alinio gydag amcanion Cynllun Twf Economaidd PRC. Mae cynrychiolwyr y Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau hefyd ar Fwrdd Sgiliau a Chyflogaeth Cymru, Bwrdd Cynghori Prentisiaethau Cymru a’r Cyngor ar gyfer Datblygu Economaidd.

 

Mae’r Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau yn cynrychioli’r economi ranbarthol ac mae’n cynnwys cynrychiolaeth gan Fargen Ddinesig PRC, y CBI, FfBB, Siambr Fasnach De Cymru yn ogystal â chyflogwyr o sectorau a nodir yn flaenoriaeth yn rhanbarthol gan gynnwys Deunyddiau Uwch, Gweithgynhyrchu, Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Adeiladu, Creadigol, Digidol, Technoleg Galluogi ac Economi Sylfaenol Ddynol.

 

Mae pob Aelod o’r Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau yn mabwysiadu rôl llysgennad a hyrwyddwr dros waith Partneriaeth Sgiliau PRC ar draws eu rhwydweithiau cysylltiedig, gweithgaredd sy’n gwella ymgysylltiad ac yn sicrhau bod ‘cyrhaeddiad’ y gorau a all fod ymhlith y llu o rwydweithiau busnes a’r strwythurau economaidd ehangach yn y rhanbarth.

 

I gefnogi gweithgareddau ymgysylltu ac i hyrwyddo perthnasoedd gweithio cadarnhaol â chyflogwyr, mae Partneriaeth Sgiliau PRC yn parhau i gefnogi chwe grŵp clwstwr diwydiannol. Mae’r grwpiau clwstwr yn alinio’n uniongyrchol â’r sectorau sydd wedi eu nodi’n flaenoriaeth ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac ysgogir pob un gan yr hyrwyddwr sector perthnasol:

  •  
  • Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
  • Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
  • Adeiladu
  • Creadigol
  • Technoleg Ddigidol a Galluogi
  • Economi Sylfaenol Ddynol