Mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRSP) yn un o bedair Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yng Nghymru, sy’n cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymagwedd ranbarthol at ddatblygu sgiliau. Mae CCRSP yn rhoi cyngor strategol am anghenion o ran gweithlu, gan nodi meysydd twf a dirywiad trwy dystiolaeth gadarn a thrwy ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr a rhanddeiliaid.

Fel dolen allweddol rhwng diwydiant a llywodraeth, mae CCRSP yn cyflenwi gwybodaeth am y farchnad lafur ac yn helpu i siapio blaenoriaethau sgiliau rhanbarthol. Mae ffrwyth ei ddadansoddiad yn llywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru am ariannu sgiliau a chyflogadwyedd, gan sicrhau bod buddsoddiad yn cyd-fynd ag anghenion busnesau a’r gweithlu sy’n esblygu.

...

Amdanom ni

Gwybodaeth am ein cyfarfodydd, cyfarfodydd a digwyddiadau

Gweld mwy
...

Arsyllfa ddata

Yma byddwch yn gallu dod o hyd i'r data diweddaraf sy'n ymwneud â'r economi, addysg, sgiliau, hyfforddiant a'r gweithlu ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Gweld mwy
...

Sectorau blaenoriaeth

Mae gennym 6 sector blaenoriaeth yn y rhanbarth

Gweld mwy
...

Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau

2022-25

Gweld mwy